Mae’n ddrwg gennym glywed bod angen ad-daliad arnoch. Er mwyn ceisio ei gwneud mor hawdd â phosib, a fyddech cystal â darparu’r wybodaeth ganlynol.

Os ydych chi wedi talu â cherdyn

Rhowch wybod i ni beth yw 4 digid olaf y cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu er mwyn ein helpu i’w ganfod ar y system.

Os ydych chi wedi talu ag Apple Pay neu Google Pay

Rhowch wybod i ni beth yw 4 digid olaf rhif cyfrif eich dyfais, nid rhif eich cerdyn.

Sut mae dod o hyd i rif cyfrif eich dyfais Apple Pay

  1. Agorwch ‘Gosodiadau’
  2. Sgroliwch i lawr a dewis ‘Wallet ac Apple Pay’
  3. Ar ôl ei agor, cliciwch eich cerdyn talu
  4. Sgroliwch i’r adran gwybodaeth am y cerdyn
  5. Mae 4 digid olaf rhif eich dyfais ‘Apple Pay’ i’w gweld o dan yr adran hon.

Sut mae dod o hyd i’ch rhif cyfrif rhithiol ar Google Pay

    1. Agorwch ap Google Pay. Pwyswch Talu.
    2. Dewiswch gerdyn Talu.
    3. Sgroliwch i lawr i’r gwaelod i ddod o hyd i’r ‘Rhif Cyfrif Rhithiol’ (dim ond y 4 digid olaf sydd i’w gweld).
Man looking at phone