Angen help gyda sebon a chyflyrydd ffabrig? Darllenwch i gael gwybod mwy.

Dosio’n awtomatig – beth yw hyn?

Mewn rhai lleoliadau, ychwanegir sebon a chyflyrydd ffabrig yn awtomatig at y cylch golchi.

Efallai y gwelwch y sticer hwn ar eich peiriannau golchi dillad hefyd:

Mae’n gwneud bywyd yn hawdd iawn. Mae’r peiriant wedi’i raglennu’n awtomatig i ychwanegu’r union faint o’n glanedydd anfiolegol a chyflyrydd ffabrig ar yr adeg iawn yn y cylch golchi. Dim mwy o focsys na photeli i’w cario, llai o blastig untro a dillad sy’n arogli’n hyfryd. I gael rhagor o wybodaeth am y glanedydd, cliciwch yma. I gael rhagor o wybodaeth am y cyflyrydd ffabrig, cliciwch yma.

Faint o lanedydd a chyflyrydd ffabrig ddylwn i eu rhoi yn y peiriant?

Os nad oes peiriannau dosio’n awtomatig ar gael yn eich lleoliad chi, dylech roi eich glanedydd i mewn i ddrwm y peiriant.

Gall ychwanegu gormod o lanedydd fod yn wall cyffredin. Mae dillad sy’n teimlo’n ludiog pan fyddant yn dod allan o’r peiriant golchi neu ddillad glân a sych sy’n teimlo’n grensiog neu’n graflyd yn gallu bod yn arwydd o hyn.

Wrth gwrs, mae’n dibynnu ar ba frand rydych chi’n ei ddefnyddio ond, er enghraifft, ar gyfer dillad sydd ychydig yn fudr, dim ond 10ml o lanedydd sydd ei angen. Mae hynny’n gyfwerth â dwy lwy de!