Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu’r blaned a bod yn fwy eco-gyfeillgar. Oeddech chi’n gwybod bod eich ymddygiad yn gallu gwneud byd o wahaniaeth? Isod, rydyn ni wedi llunio 4 awgrym i helpu eich golch i fod yn fwy eco-gyfeillgar.

Cadw’n cŵl

Oeddech chi’n gwybod bod 75% o’r ynni a ddefnyddir ar gyfer golchi dillad yn mynd i gynhesu’r dŵr? Gallwch arbed 40% ar eich defnydd o ynni drwy olchi ar 30 gradd (o’i gymharu â 40 gradd).

Bydd hyn o fudd i’ch dillad hefyd, gan fod golchi mewn tymereddau oerach yn helpu dillad i gadw eu siâp a’u lliw.

Clirio’r fflwffd

Cliriwch yr hidlydd fflwff ar ôl pob llwyth. Mae cynyddu cylchrediad aer yn eich peiriant sychu dillad yn ei alluogi i weithio’n gyflymach, gan wastraffu llai o drydan.

Pentwr uchel

Peidiwch â gwastraffu ynni drwy olchi hanner llwythau. Mae’n llai effeithlon o lawer gan fod y cylch golchi yn dal i ddefnyddio’r ynni ar gyfer llwyth llawn. Ond peidiwch â’i orlenwi ’chwaith! Gadewch fwlch mor fawr â’ch dwrn rhwng y dilledyn uchaf a phen y drwm.

Glanach a gwyrddach

Wrth ddewis glanedydd golchi dillad, ceisiwch ddod o hyd i gynnyrch sy’n fwy caredig i’r blaned. Dewiswch lanedyddion eco-gyfeillgar – dydyn nhw ddim yn cynnwys pethau a allai fod yn niweidiol, ac maen nhw yr un mor effeithiol. Gallwch helpu ychydig mwy drwy ddewis glanedyddion bioddiraddadwy a phecynnau wedi’u gwneud o blastig wedi’i ailgylchu.