Does dim byd yn curo’r teimlad o lapio mewn tywel meddal, ffres ar ôl ymlacio yn y bath neu yn y gawod. Yn anffodus, hyd yn oed os byddwch chi’n prynu’r tywelion mwyaf moethus, maen nhw’n gallu teimlo’n arw ac yn graflyd oherwydd mwynau o ddŵr caled, olew’r corff a glanedyddion.

I helpu, rydyn ni wedi llunio rhestr o awgrymiadau golchi dillad hawdd eu dilyn i helpu i gadw eich tywelion yn feddal ac yn fflwfflyd ar ôl pob defnydd

Gwahanu eich dillad
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahanu eich tywelion oddi wrth eitemau eraill y mae angen eu golchi er mwyn atal fflwff rhag cael ei drosglwyddo rhwng y ffabrigau. Mae hefyd yn syniad da cadw tywelion o’r un lliw gyda’i gilydd i gyfyngu ar faint o liw sy’n cael ei drosglwyddo.

Llwytho eich peiriant 

Mae’n bwysig gadael digon o le i’ch tywelion yn nrwm y peiriant er mwyn gallu eu rinsio a’u cynhyrfu’n iawn. Fel arall, bydd eich tywelion yn glynu wrth ei gilydd a gall hyn wneud iddynt deimlo’n arw ar ôl iddynt sychu.

Golchi a sychu ar wres canolig  

Nid yw cotwm (y mae’r rhan fwyaf o dywelion wedi’u gwneud ohono) yn adweithio’n dda i dymheredd uwch a gall fynd i deimlo’n arw. Yn hytrach, dewiswch osodiad gwres canolig o tua 40°C a fydd yn helpu i gadw ffeibrau a meddalwch eich tywelion. Os yw eich tywelion yn arbennig o fudr, gallwch godi’r tymheredd i 60°C o bryd i’w gilydd.

Dechreuwch eu sychu ar unwaith

Gall gadael tywelion wedi’u pentyrru yn y peiriant golchi annog llwydni i dyfu a bydd yn arwain at wasgu’r ffeibrau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu symud i’r peiriant sychu dillad neu’r lein ddillad cyn gynted ag y bydd y cylch wedi gorffen. Yn ddelfrydol, i rywle y tu allan neu sydd â llif aer da.

Awgrym: Peidiwch byth â defnyddio rheiddiadur! Bydd yn sychu eich tywelion yn rhy gyflym, gan wneud iddynt deimlo’n arw.

Ar ddiwedd y cylch golchi…

Ar ôl i’ch tywelion gael eu golchi a’u sychu’n llwyr, dylech eu hysgwyd a’u plygu cyn gynted â phosib. Ceisiwch beidio â’u storio mewn pentwr uchel, gan y bydd hyn yn rhoi gormod o bwysau ar ffeibrau’r tywelion ar y gwaelod.

Ac yn olaf… Cofiwch gylchdroi

Gall golchi’n aml dorri ffeibrau’r ffabrig i lawr, felly mae’n well cylchdroi un neu ddau dywel i roi seibiant i’r ffeibrau rhwng eu golchi.