Cyhoeddir y polisi preifatrwydd hwn gan WASHCO ar ran grŵp cwmnïau Hughes, sef Hughes Electrical Ltd, Hughes Tv and Audio Ltd, Hughes Rental Ltd, Washco Ltd a Solent Laundry Solutions Ltd (gyda’i gilydd, ‘ni’, neu ‘ein’).
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol. Rydyn ni’n cymryd gofal i ddiogelu preifatrwydd ein cwsmeriaid a defnyddwyr ein cynhyrchion sy’n cyfathrebu â ni ar-lein, drwy wefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Felly, rydyn ni wedi datblygu’r polisi preifatrwydd hwn i roi gwybod i chi am y data rydyn ni’n ei gasglu, yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth, yr hyn rydyn ni’n ei wneud i’w chadw’n ddiogel yn ogystal â’r hawliau a’r dewisiadau sydd gennych dros eich gwybodaeth bersonol.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa endid fydd ‘rheolydd’ eich data personol pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaeth gyda ni. Er bod WASHCO yn gweinyddu ac yn defnyddio data perthnasol, Hughes Electrical Ltd yw rheolydd ein gwefan ac mae’n gyfrifol amdani.
Drwy bori neu ddefnyddio ein gwefan rydych chi’n cytuno i’r polisi hwn sy’n rheoli’r defnydd o’r wefan. Os nad ydych chi’n derbyn y polisi hwn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.
Rydyn ni’n addo:
- Cadw eich data’n ddiogel ac yn breifat.
- Peidio â gwerthu eich data.
- Ei gwneud yn hawdd i chi reoli ac adolygu eich dewisiadau marchnata unrhyw bryd.
- Dileu eich data os nad oes ei angen mwyach.
Sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Bydd yr holl ddata personol a gawn amdanoch yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r gyfraith diogelu data gyfredol a’r polisi preifatrwydd hwn. Byddwn ni, neu broseswyr data trydydd parti sy’n gweithredu ar ein rhan, yn prosesu eich data personol fel a ganlyn.
Yn ôl yr angen, o dan fuddiant dilys, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ganlynol gennych chi.
Eich enw a manylion cyswllt
- Ar gyfer cyswllt gan reolwr eich cyfrif
- Ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid a chymorth gyda chynnyrch
- I ddanfon eich archebion
- Anfon gwybodaeth atoch drwy e-bost neu drwy’r post am gynhyrchion a gwasanaethau newydd
Eich hanes o ran cysylltu â ni
- Er mwyn rheoli eich cyfrif
- I’n helpu i reoli eich ymholiad
ac i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol ynghylch gofalu am eich data, i atal a chanfod twyll yn eich erbyn chi neu WASHCO.
Ymwelwyr â’n gwefan
Pan fydd rhywun yn ymweld â www.washpoint.uk, rydyn ni’n defnyddio gwasanaeth trydydd parti, i gasglu gwybodaeth rhyngrwyd safonol a manylion patrwm ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni’n gwneud hyn i ganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o’r wefan. Caiff yr wybodaeth hon ei phrosesu mewn ffordd nad oes modd adnabod neb ohoni. Dydyn ni ddim yn gwneud, nac yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ganfod pwy yw’r rheini sy’n ymweld â’n gwefan. Os ydyn ni’n awyddus i gasglu gwybodaeth bersonol y gellir adnabod pobl ohoni drwy ein gwefan, byddwn yn hollol agored am hyn. Byddwn yn gwneud hyn yn glir pan fyddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol a byddwn yn egluro beth rydyn ni’n bwriadu ei wneud â hi. Darllenwch ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.
Rhannu eich gwybodaeth
Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhentu eich data personol i drydydd parti – gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch cyfeiriad e-bost.
Fodd bynnag, er mwyn cyflawni eich archeb neu wasanaeth byddwn yn ei rannu â:
- Darparwyr gwasanaethau talu
- Cwmnïau danfon fel Palletways
- Darparwyr gwasanaethau proffesiynol, fel asiantaethau marchnata, partneriaid hysbysebu a lletywyr gwefannau sy’n ein helpu i redeg ein busnes.
- Asiantaethau gwirio credyd, cwmnïau cyllid, asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac atal twyll.
- Gwneuthurwyr pan fydd darnau sbâr yn cael eu hanfon atoch chi neu at ddibenion gwarant.
- Peirianwyr neu dechnegwyr gwasanaeth sy’n atgyweirio cynhyrchion
- Efallai y byddwn yn darparu dadansoddeg a gwybodaeth ddienw am ein cwsmeriaid i drydydd parti a, chyn i ni wneud hynny, byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw’n datgelu pwy ydych chi.
Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth bersonol yn ddienw ac yn cael ei chyfuno (fel nad yw’n datgelu pwy ydych chi) ac yn ei defnyddio at ddibenion sy’n cynnwys profi ein systemau TG a gwella ein gwefan, a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Rydyn ni’n rhannu’r wybodaeth hon â thrydydd partïon hefyd.
Cwmnïau eraill o fewn Grŵp Hughes
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â chwmnïau eraill yng Ngrŵp Hughes, i’n helpu i ddarparu gwasanaethau i chi neu yn ôl yr angen yng nghyd-destun ymarfer ad-drefnu busnes neu ailstrwythuro’r grŵp. Fel y nodir ar frig y polisi preifatrwydd hwn, dyma’r cwmnïau:
Hughes Electrical Ltd
Hughes Tv and Audio Ltd
Hughes Rental Ltd
Washco Ltd
Solent Laundry Solutions Ltd
Mae gan bob un o’r cwmnïau hyn eu cyfeiriad cofrestredig yn Mobbs Way Lowestoft NR32 3AL ac maent yn rhwym wrth delerau’r datganiad preifatrwydd hwn ac mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â pholisïau diogelu data ein grŵp.
Negeseuon marchnata
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â chynhyrchion a gwasanaethau perthnasol.
Gallwch roi’r gorau i dderbyn negeseuon marchnata gennym unrhyw bryd.
Gallwch wneud hyn:
- Drwy glicio’r ddolen ‘dad-danysgrifio’ mewn unrhyw e-bost.
- Drwy anfon e-bost at privacy@washco.co.uk neu drwy ysgrifennu at WASHCO, Unit 11, Bone Lane, Newbury, Berkshire RG14 5RU.
Ar ôl i chi wneud hyn, byddwn yn diweddaru eich proffil i wneud yn siŵr nad ydych chi’n cael rhagor o negeseuon marchnata.
Sylwch y byddwn yn diweddaru ein systemau cyn gynted ag y gallwn ond efallai y byddwch yn dal i gael negeseuon gennym tra byddwn yn prosesu eich cais.
Ni fydd rhoi’r gorau i dderbyn negeseuon marchnata yn atal cyfathrebiadau ynghylch archebion na materion sy’n ymwneud â chwsmeriaid.
Rydyn ni hefyd yn hysbysebu ar-lein, er mwyn rhoi’r diweddaraf i chi am yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac i’ch helpu chi i weld a dod o hyd i’n cynhyrchion.
Hysbysebu Ar-lein
Fel llawer o gwmnïau, efallai y byddwn yn targedu baneri a hysbysebion WASHCO atoch chi pan fyddwch ar wefannau ac apiau eraill. Rydyn ni’n gwneud hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o rwydweithiau marchnata digidol a chyfnewid hysbysebion, ac rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o dechnolegau hysbysebu fel picseli, tagiau hysbysebu, cwcis a dynodwyr symudol, yn ogystal â gwasanaethau penodol sy’n cael eu cynnig gan rai gwefannau a rhwydweithiau cymdeithasol, fel gwasanaeth Cynulleidfaoedd Personol Facebook.
Bydd y baneri a’r hysbysebion rydych chi’n eu gweld yn seiliedig ar wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, neu ar eich defnydd blaenorol o WASHCO neu ar faneri neu hysbysebion WASHCO rydych chi wedi clicio arnyn nhw o’r blaen.
Cwcis
Rydyn ni’n defnyddio cwcis ar ein gwefan. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis a sut i gael gwared arnynt, darllenwch ein polisi cwcis ar www.washpoint.uk/cy/cookies.
Eich gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y bydd gennych gyfrif, neu cyhyd ag y bo angen er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau i chi, neu cyhyd ag y bo angen i ddarparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chynnyrch. Oni bai fod y gyfraith yn mynnu fel arall, bydd eich data’n cael ei storio am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl y cyswllt diwethaf â chi, a bydd yn cael ei ddileu bryd hynny.
Os oes angen bodloni gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol, datrys anghydfodau, atal twyll neu orfodi ein telerau ac amodau.
Eich hawliau chi
- Yr hawl i gael gwybod sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio.
- Yr hawl i weld yr wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi – Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun.
- Yr hawl i ofyn am gywiro gwybodaeth bersonol anghywir sydd gennym amdanoch chi.
- Yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data, neu roi’r gorau i’w brosesu neu ei gasglu, mewn rhai amgylchiadau.
- Yr hawl i roi’r gorau i dderbyn negeseuon marchnata uniongyrchol a thynnu caniatâd yn ôl ar gyfer unrhyw brosesu arall sy’n seiliedig ar gydsyniad unrhyw bryd.
- Yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo neu symud elfennau o’ch data naill ai i chi neu i ddarparwr gwasanaeth arall.
- Yr hawl i gwyno wrth eich rheoleiddiwr diogelu data – Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau preifatrwydd
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rheoleiddio materion sy’n ymwneud â diogelu data a phreifatrwydd yn y DU. Maent yn sicrhau bod llawer o wybodaeth ar gael i ddefnyddwyr ar eu gwefan ac maent yn sicrhau bod manylion cofrestredig pob rheolydd data fel ni ar gael yn gyhoeddus. Gallwch gael gafael arnynt yma: https://cy.ico.org.uk/for-the-public.
Gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw bryd am y ffordd rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth. Fodd bynnag, gobeithiwn y byddech yn ystyried codi unrhyw fater neu gŵyn sydd gennych gyda ni yn gyntaf. Mae’n eithriadol o bwysig i ni eich bod chi’n fodlon ar ein gwasanaeth, a byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych.
Am ba hyd rydyn ni’n cadw eich data.
Rydyn ni’n cadw cofnod o’ch gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaeth cyson o safon i chi. Byddwn bob amser yn cadw eich gwybodaeth yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac ni fyddwn byth yn cadw eich gwybodaeth am hirach nag sydd angen. Oni bai fod y gyfraith yn mynnu fel arall, bydd eich data’n cael ei storio am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl ein cyswllt diwethaf â chi, a bydd yn cael ei ddileu bryd hynny.
Trosglwyddo data personol y tu allan i’r DU?
Er ein bod wedi ein lleoli yn Lloegr, efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i leoliad (er enghraifft, i weinydd diogel) y tu allan i’r Deyrnas Unedig, os byddwn yn credu bod hynny’n angenrheidiol neu’n ddymunol at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad hwn.
Mewn achosion o’r fath, er mwyn diogelu eich hawliau preifatrwydd, bydd trosglwyddiadau’n cael eu gwneud i dderbynwyr y mae “penderfyniad digonolrwydd” yn berthnasol iddynt (penderfyniad gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw hwn sy’n cadarnhau bod mesurau diogelu digonol ar waith yn y lleoliad hwnnw ar gyfer diogelu data personol), neu byddant yn cael eu cyflawni o dan gymalau cytundebol safonol sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel rhai sy’n darparu mesurau diogelu priodol ar gyfer trosglwyddo data personol yn rhyngwladol.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Os gwneir newidiadau sylweddol i’r datganiad hwn, byddwn yn gwneud hynny’n glir ar ein gwefannau neu drwy anfon e-bost atoch er mwyn i chi allu adolygu’r newidiadau cyn i chi barhau i gael negeseuon marchnata gennym.
Sut mae cysylltu â ni
Os ydych chi eisiau arfer eich hawliau, gwneud cwyn, neu os oes gennych chi gwestiynau am y datganiad preifatrwydd, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at privacy@washco.co.uk neu drwy ysgrifennu atom yn:
WASHCO Privacy Team
Unit 11
Arnhem Road
Bone Lane
Newbury
Berkshire
RG14 5RU
Mae gennych chi hefyd hawl i gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am sut mae adrodd ar bryder: https://cy.ico.org.uk/make-a-complaint/
Fersiwn 4 25.01.2021