Mae’n ddrwg gennym glywed bod angen ad-daliad arnoch. Er mwyn ceisio ei gwneud mor hawdd â phosib, a fyddech cystal â darparu’r wybodaeth ganlynol.
Os ydych chi wedi talu â cherdyn
Rhowch wybod i ni beth yw 4 digid olaf y cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu er mwyn ein helpu i’w ganfod ar y system.
Os ydych chi wedi talu ag Apple Pay neu Google Pay
Rhowch wybod i ni beth yw 4 digid olaf rhif cyfrif eich dyfais, nid rhif eich cerdyn.
Sut mae dod o hyd i rif cyfrif eich dyfais Apple Pay
- Agorwch ‘Gosodiadau’
- Sgroliwch i lawr a dewis ‘Wallet ac Apple Pay’
- Ar ôl ei agor, cliciwch eich cerdyn talu
- Sgroliwch i’r adran gwybodaeth am y cerdyn
- Mae 4 digid olaf rhif eich dyfais ‘Apple Pay’ i’w gweld o dan yr adran hon.
Sut mae dod o hyd i’ch rhif cyfrif rhithiol ar Google Pay
-
- Agorwch ap Google Pay. Pwyswch Talu.
- Dewiswch gerdyn Talu.
- Sgroliwch i lawr i’r gwaelod i ddod o hyd i’r ‘Rhif Cyfrif Rhithiol’ (dim ond y 4 digid olaf sydd i’w gweld).
