Telerau ac Amodau
Diweddarwyd ddiwethaf: Tachwedd 2021
DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R WEFAN HON
Beth sydd yn y telerau hyn?
Mae’r telerau hyn yn nodi’r rheolau ar gyfer defnyddio ein gwefannau www.washco.co.uk a www.washspares.co.uk (ein gwefannau).
Cliciwch y dolenni isod (ar gael yn Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth am bob maes:
- Pwy ydyn ni a sut mae cysylltu â ni
- Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi’n derbyn y telerau hyn
- Mae telerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi
- Mae’n bosib y byddwn yn gwneud newidiadau i’r telerau hyn
- Mae’n bosib y byddwn yn gwneud newidiadau i’n gwefan
- Mae’n bosib y byddwn yn atal ein gwefan dros dro neu’n ei thynnu’n ôl
- Mae’n bosib y byddwn yn trosglwyddo’r cytundeb hwn i rywun arall
- Mae ein gwefan ar gyfer defnyddwyr yn y DU yn unig
- Rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel
- Sut gallwch chi ddefnyddio deunydd ar ein gwefan
- Dim cloddio data na thestun, nac echdynnu data o’r we
- Peidiwch â dibynnu ar wybodaeth ar ein gwefan
- Dydyn ni ddim yn gyfrifol am wefannau eraill rydyn ni’n cynnwys dolenni iddynt
- Ein cyfrifoldeb ni dros golled neu ddifrod a ddioddefir gennych chi
- Sut gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol
- Lanlwytho cynnwys i’n gwefan
- Dydyn ni ddim yn gyfrifol am feirysau a rhaid i chi beidio â’u cyflwyno
- Rheolau ynghylch dolenni i’n gwefan
- Cyfreithiau pa wlad sy’n berthnasol i unrhyw anghydfod?
- Mae ein nodau masnach wedi’u cofrestru
Pwy ydyn ni a sut mae cysylltu â ni
Mae www.washco.co.uk a www.laundryspares.co.uk yn wefannau sy’n cael eu gweithredu gan WashCo Limited (Ni). Rydyn ni’n gwmni cyfyngedig sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 00231369 ac mae gennym ein swyddfa gofrestredig yn Hughes Electrical Limited Mobbs Way, Gorleston Road Industrial Estate, Gorleston Road, Lowestoft, Suffolk NR32 3AL. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Unit 11, Arnhem Road, Bone Lane, Newbury, Berkshire RG14 5RU.
Ein rhif TAW yw GB 491645620.
Rydyn ni’n defnyddio’r enwau masnachu canlynol: Laundry Spares, WashPoint, WashSpares, WashPartner.
I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at info@washco.co.uk neu ffoniwch ein llinell gwasanaeth cwsmeriaid ar 0808 506 7832.
Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi’n derbyn y telerau hyn.
Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi’n cadarnhau eich bod chi’n derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod chi’n cytuno i gydymffurfio â nhw.
Os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn argraffu copi o’r telerau hyn er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
Mae telerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi
Mae’r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefan:
· Mae ein Polisi Cwcis a Phreifatrwydd ar gael yn https://www.washpoint.uk/cy/polisi-preifatrwydd/
Mae’n bosib y byddwn yn gwneud newidiadau i’r telerau hyn
Byddwn yn diwygio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bob tro y byddwch yn dymuno defnyddio ein gwefan, edrychwch ar y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol ar y pryd. Cafodd y telerau hyn ei diweddaru ddiwethaf ym mis Tachwedd 2021.
Mae’n bosib y byddwn yn gwneud newidiadau i’n gwefan
Efallai y byddwn yn diweddaru ac yn newid ein gwefan o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau i’n cynhyrchion, anghenion ein defnyddwyr a’n blaenoriaethau busnes.
Mae’n bosib y byddwn yn atal ein gwefan neu’n ei thynnu’n ôl
Mae ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim.
Dydyn ni ddim yn gwarantu y bydd ein gwefan nac unrhyw gynnwys arni bob amser ar gael nac yn barhaus. Efallai y byddwn yn atal ein gwefan gyfan neu unrhyw ran ohoni dros dro, neu’n ei thynnu’n ôl neu’n cyfyngu ar ei hargaeledd am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw benderfyniad i atal neu dynnu’n ôl.
Rydych chi hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pob unigolyn sy’n defnyddio ein gwefan drwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.
Gallwn drosglwyddo’r cytundeb hwn i rywun arall
Gallwn drosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y telerau hyn i sefydliad arall. Byddwn bob amser yn dweud wrthych yn ysgrifenedig os bydd hyn yn digwydd a byddwn yn sicrhau na fydd y trosglwyddiad yn effeithio ar eich hawliau o dan y contract.
Mae ein gwefan ar gyfer defnyddwyr yn y DU yn unig
Mae ein gwefan wedi’i hanelu at bobl sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Dydyn ni ddim yn honni bod cynnwys sydd ar gael ar ein gwefan neu drwy ein gwefan yn briodol i’w ddefnyddio nac ar gael mewn lleoliadau eraill.
Rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel
Os byddwch yn dewis, neu’n cael, cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Peidiwch â’i datgelu i unrhyw drydydd parti.
Mae gennym hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, a ddewiswyd gennych chi neu a ddyrannwyd gennym ni, unrhyw bryd, os ydych chi, yn ein barn resymol ni, wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.
Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod rhywun ar wahân i chi yn gwybod eich cod adnabod defnyddiwr neu eich cyfrinair, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith ar info@washco.co.uk.
Sut gallwch chi ddefnyddio deunydd ar ein gwefan
Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl hawliau eiddo deallusol yn ein gwefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Mae’r gwaith hwnnw wedi cael ei warchod gan gytuniadau a chyfreithiau hawlfraint ledled y byd. Cedwir pob hawl o’r fath.
Gallwch argraffu un copi, a lawrlwytho detholiadau, o unrhyw dudalen(nau) o’n gwefan at eich defnydd personol chi a gallwch dynnu sylw pobl eraill yn eich sefydliad at y cynnwys sydd wedi’i bostio ar ein gwefan.
Rhaid i chi beidio ag addasu’r copïau papur na’r copïau digidol o unrhyw rai o’r deunyddiau rydych chi wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniadau, ffotograffau, fideos na dilyniannau sain nac unrhyw graffigwaith ar wahân i’r testun cysylltiedig.
Rhaid cydnabod ein statws ni (a statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron cynnwys ar ein gwefan bob amser (ac eithrio pan fydd y cynnwys yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr).
Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.
Os byddwch yn argraffu, yn copïo, yn lawrlwytho, yn rhannu neu’n ail-bostio unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau rydych wedi’u gwneud.
Dim cloddio data na thestun, nac echdynnu data o’r we
Ni chewch gynnal, hwyluso, awdurdodi na chaniatáu cloddio data na thestun nac echdynnu data o’r we mewn perthynas â’n gwefan nac unrhyw wasanaethau a ddarperir drwy ein gwefan, neu mewn perthynas â hi. Mae hyn yn cynnwys defnyddio (neu ganiatáu, awdurdodi neu geisio defnyddio):
- Unrhyw “robot”, “bot”, “corryn”, “crafwr” neu ddyfais, rhaglen, adnodd, algorithm, cod, proses neu fethodoleg awtomataidd arall i weld, cael, copïo, monitro neu ailgyhoeddi unrhyw ran o’r wefan neu unrhyw ddata, cynnwys, gwybodaeth neu wasanaethau sydd ar gael drwy’r un wefan.
- Unrhyw dechneg ddadansoddi awtomataidd wedi’i hanelu at ddadansoddi testun a data ar ffurf ddigidol i gynhyrchu gwybodaeth sy’n cynnwys, yn ddigyfyngiad, batrymau, tueddiadau a chydberthyniadau.
Dylai’r darpariaethau yn y cymal hwn gael eu trin fel mater penodol o gadw ein hawliau yn y cyswllt hwn, yn cynnwys at ddibenion Erthygl 4(3) o’r Gyfarwyddeb Hawlfraint Ddigidol ((EU 2019/790)).
Ni fydd y cymal hwn yn berthnasol i’r graddau (ond dim ond i’r graddau) na allwn eithrio na chyfyngu ar weithgarwch echdynnu data o’r we na chloddio data neu destun drwy gontract o dan y cyfreithiau sy’n berthnasol i ni.
Peidiwch â dibynnu ar wybodaeth ar y wefan hon
Darperir y cynnwys ar ein gwefan er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu beidio â chymryd, unrhyw gamau ar sail y cynnwys ar ein gwefan.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein gwefan, dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau na sicrwydd, boed yn ddatganedig neu ymhlyg, bod y cynnwys ar ein gwefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.
Dydyn ni ddim yn gyfrifol am wefannau eraill rydyn ni’n cynnwys dolenni iddynt
Lle bod ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Ni ddylid dehongli dolenni o’r fath fel cymeradwyaeth gennym ni o’r gwefannau sydd â dolenni iddynt neu’r wybodaeth y gallwch eu cael ganddynt.
Nid oes gennym unrhyw reolaeth am gynnwys y gwefannau na’r adnoddau hynny.
Ein cyfrifoldeb ni dros golled neu ddifrod a ddioddefir gennych chi
P’un a ydych chi’n ddefnyddiwr neu’n ddefnyddiwr busnes:
- Dydyn ni ddim yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd i chi lle byddai’n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni neu esgeulustod ein gweithwyr, ein hasiantau neu ein hisgontractwyr ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr busnes:
- Rydyn ni’n eithrio’r holl amodau, gwarantau, sylwadau neu delerau ymhlyg eraill a allai fod yn berthnasol i’n gwefan neu i unrhyw gynnwys arni.
- Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), achos o dorri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â’r canlynol:
– defnyddio ein gwefan, neu fethu defnyddio ein gwefan; neu
– defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys sy’n cael ei ddangos ar ein gwefan. - Yn benodol, ni fyddwn yn atebol am y canlynol:
– colli elw, gwerthiannau, busnes neu refeniw;
– tarfu ar fusnes;
– colli arbedion disgwyliedig;
– colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu
– unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr:
- Cofiwch mai dim ond at ddefnydd domestig a phreifat y byddwn yn darparu ein gwefan. Rydych chi’n cytuno peidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddiben masnachol neu fusnes, ac ni fyddwn yn atebol o gwbl i chi am unrhyw golled o ran elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, neu golli cyfle busnes.
- Os bydd cynnwys digidol diffygiol rydyn ni wedi’i ddarparu yn difrodi dyfais neu gynnwys digidol sy’n eiddo i chi a bod hyn yn cael ei achosi gan ein methiant i ddefnyddio gofal a sgiliau rhesymol, byddwn naill ai’n trwsio’r difrod neu’n talu iawndal i chi. Fodd bynnag, ni fyddwn yn atebol am ddifrod y gallech fod wedi’i osgoi drwy ddilyn ein cyngor i ddefnyddio diweddariad a gynigiwyd i chi yn rhad ac am ddim nac am ddifrod a achoswyd gan i chi fethu dilyn cyfarwyddiadau gosod yn gywir neu fod â’r gofynion sylfaenol ar waith o ran y system.
Sut gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol
Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y nodir yn ein polisi preifatrwydd yn https://www.washpoint.uk/cy/polisi-preifatrwydd/
Lanlwytho cynnwys i’n gwefan
Chewch chi ddim lanlwytho cynnwys i’n gwefan ar wahân i ofyn cwestiynau yn y sgwrsfot cymorth.
Dydyn ni ddim yn gyfrifol am feirysau a rhaid i chi beidio â’u cyflwyno
Dydyn ni ddim yn gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel nac yn rhydd o fygs neu feirysau.
Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan er mwyn cael mynediad i’n gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag feirysau eich hun.
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan drwy fynd ati i gyflwyno feirysau, cnafon, cynrhon, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan wedi’i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth (DoS) neu ymosodiad atal gwasanaeth o sawl cyfeiriad (DDoS). Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw drosedd o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt. Os bydd trosedd o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith
Rheolau ynghylch dolenni i’n gwefan
Ni chewch ddarparu dolenni i unrhyw ran o’n gwefan nac awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth nac ardystiad ar ein rhan os nad oes unrhyw un yn bodoli heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ni.
Ni ddylid fframio ein gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o’n gwefan ar wahân i’r hafan.
Os ydych chi’n dymuno darparu dolen i unrhyw gynnwys ar ein gwefan, neu ddefnyddio unrhyw gynnwys o’r fath, cysylltwch ag info@washco.co.uk.
Cyfreithiau pa wlad sy’n berthnasol i unrhyw anghydfod??
Os ydych chi’n ddefnyddiwr, cofiwch fod y telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiant, yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Rydych chi a ninnau’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth lwyr. Ond, os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch hefyd ddwyn achos yn yr Alban.
Os ydych chi’n fusnes, mae’r telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiant (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn ymwneud â chontractau) yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Rydyn ni’n cytuno i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.
Mae ein nodau masnach wedi’u cofrestru
WASHCO a WASHCO LEADERS IN LAUNDRY yw nodau masnach cofrestredig WASHCO Limited yn y DU. Ni chaniateir i chi eu defnyddio heb ein cymeradwyaeth ni, oni bai eu bod yn rhan o ddeunydd rydych chi’n ei ddefnyddio fel y caniateir o dan yr adran Sut gallwch chi ddefnyddio deunydd ar ein gwefan.