Gwybodaeth am WASHPOINT

Gwneud golchi dillad yn syml

Ein cenhadaeth ni gyda WASHPOINT, ein hateb golchi dillad a reolir yn llawn, yw gwneud y dasg o olchi dillad yn syml i fyfyrwyr drwy’r canlynol:

  • Taliadau digyswllt, tapio a mynd, hawdd
  • Amgylcheddau ffres a chroesawgar
  • Peiriannau hawdd eu defnyddio sy’n sicrhau canlyniadau gwych
  • Gwasanaeth prydlon a chyfeillgar ledled y DU
  • A dull cynaliadwy, sy’n cefnogi eich nodau amgylcheddol

Os hoffech chi weld sut gallwn ni eich helpu i arwain y newid mewn golchdai i fyfyrwyr, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ni yn rhad ac am ddim ar 08000 546 546.

Gwasanaeth y gallwch ddibynnu arno

Rydych chi mewn dwylo diogel gyda WASHPOINT. Mae’n un o isadrannau WASHCO, un o’r darparwyr offer golchdai masnachol annibynnol cenedlaethol mwyaf yn y DU.

Mae golchi dillad yn bwysig i ni ac oherwydd hyn, rydyn ni’n darparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid. Mae ein peirianwyr yn arbenigwyr ym maes golchi dillad a dyna yw eu hunig ffocws.

Maen nhw’n cael eu cefnogi gan ein prif swyddfa yn Newbury, lle mae ein desg gymorth. Gallwch fod yn hyderus bod y stoc sydd ei angen arnoch a’r darnau sbâr sydd eu hangen i gynnal eich peiriannau ar gael bob amser. Mae gennym stoc gwerth tua £2m yn ein warws 25,000 troedfedd sgwâr, gan sicrhau bod gan gwsmeriaid a pheirianwyr y peiriannau a’r darnau sydd eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt.

I weld ein peirianwyr ar waith, cymerwch gip ar fideo ein cwmni.

Cysylltwch â ni

Os hoffech wybod mwy, llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad â chi.