Er mwyn sicrhau’r canlyniadau golchi a sychu gorau, yn ogystal â chymryd camau i atal unrhyw niwed i’ch dillad neu’r peiriannau, dilynwch yr arferion syml hyn ar gyfer golchi dillad.

1. Peidiwch â golchi na sychu eich dillad mewn bag rhwyd golchi

Llwythwch eich dillad yn uniongyrchol i’r drwm. Nid yw defnyddio bagiau rhwyd yn golchi nac yn sychu eich dillad yn effeithlon, gan eu bod yn atal dŵr neu aer rhag cylchredeg drwy’r llwyth. Yn ogystal, nid ydynt yn caniatáu dosbarthiad da o bwysau’r llwyth, sy’n gallu achosi niwed i’r peiriannau.

2. Peidiwch â chau’r drysau’n glep

Caewch y drws yn ysgafn i atal niwed i’r peiriannau ac i’w hatal rhag mynd allan o wasanaeth i ddefnyddwyr eraill.

3. Peidiwch ag orlwytho’r peiriannau

Am y canlyniadau golchi a sychu gorau, llwythwch y drwm hyd at ¾ llawn. Bydd gorlwytho’r peiriant yn atal eich dillad rhag cael eu golchi neu eu sychu’n iawn ac yn gallu achosi niwed. Gall hefyd achosi difrod i’r peiriannau ac arwain at flocio’r draen.

4. Peidiwch â gadael gwrthrychau estron yn y drwm neu yn eich pocedi

Gwiriwch y drwm am wrthrychau estron megis arian neu allweddi cyn llwytho’r peiriannau, a chofiwch wagio’ch pocedi i osgoi niwed i’ch dillad neu’r peiriant.

 

Bydd dilyn y rheolau syml hyn yn sicrhau eich bod yn elwa o’r canlyniadau golchi gorau ac yn cadw’r golchdai mewn cyflwr ardderchog.

Llwythwch i lawr Rheolau’r Golchdy
A collection of WASHPOINT washers and dryers in a laundry room