Ydych chi’n cael trafferth gyda staen gwin na fydd yn diflannu? Peidiwch â phoeni! Mae modd cael gwared â phob staen ffabrig mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, felly rydyn ni wedi paratoi canllaw syml ar sut mae cael gwared â rhai o’r staeniau mwyaf cyffredin.

Cyn dechrau arni…

  • Gallai rhai dulliau effeithio ar ffabrigau. Profwch unrhyw gynnyrch/dull bob amser ar ddarn bach, cuddiedig o’r dilledyn, fel hem fewnol crys-T.
  • Darllenwch label gofal y ffabrig. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi a yw’r cyfrwng neu’r dechneg tynnu staen yn gweithio gyda’r deunydd penodol ai peidio.

Adlynion

Cyfrwng tynnu staen: Hylif tynnu farnais ewinedd neu sudd lemwn

Sut: Defnyddiwch ddarn o wlân cotwm neu swab gyda hylif tynnu farnais ewinedd neu sudd lemon arno i ddabio’r staen. Defnyddiwch gadach i flotio* unrhyw gynnyrch dros ben i ffwrdd.

*Blotiwch drwy roi cadach dros y staen a phwyso i lawr dro ar ôl tro i helpu i amsugno’r hylif sydd dros ben.

 

Chwys

Cyfrwng tynnu staen: Sudd lemon neu finegr clir

Sut: Ewch ati i sbwnjo’r staen gyda finegr (sudd lemon ar wlân), ei rinsio a’i olchi yn ôl yr arfer.

 

Coffi a the

Cyfrwng tynnu staen: Dŵr oer a glanedydd hylif

Sut: Ar staeniau ffres, rinsiwch dan ddŵr oer ac yna eu rhwbio’n ysgafn â glanedydd hylif. Golchwch cyn gynted â phosib i wneud yn siŵr bod y staen yn cael ei dynnu’n llwyr.

 

Cwrw

Cyfrwng tynnu staen: Finegr gwyn a dŵr cynnes

Sut: Ewch ati i ddistyllu finegr gwyn â dŵr cynnes a’i ddefnyddio i sbwnjo’r staen cyn ei rinsio a’i olchi.

 

Cwyr esgidiau

Cyfrwng tynnu staen: Sebon

Sut: Rhwbiwch y staen gyda bar o sebon, yna ei olchi ar unwaith.

 

Cyfog

Cyfrwng tynnu staen: Dŵr oer a glanedydd

Sut: Tynnwch unrhyw ddarnau bach o gyfog a rinsio’r eitem dan ddŵr oer. Yna, dylech ei socian mewn hylif glanedydd cyn golchi’r eitem yn ôl yr arfer.

 

Diaroglydd

Cyfrwng tynnu staen: Finegr gwyn

Sut: Os yw’r staen yn eithaf hen, rhowch finegr gwyn distyll ar y staen a’i adael am 30 munud. Golchwch yn ôl yr arfer.

 

Eli haul

Cyfrwng tynnu staen: Dŵr cynnes a glanedydd hylif

Sut: Rinsiwch yr eitem o dan ddŵr cynnes, rhowch lanedydd ar y staen a’i ychwanegu at eich golch yn ôl yr arfer.

 

Farnais ewinedd

Cyfrwng tynnu staent: Hylif tynnu farnais ewinedd

Sut: Rhowch ychydig bach o hylif tynnu farnais ewinedd nad yw’n olewog ar gefn y ffabrig a’i olchi yn ôl yr arfer.

 

Gwaed

Cyfrwng tynnu staen: Halen, dŵr a glanedydd biolegol

Sut: Ewch ati i socian yr eitem mewn dŵr hallt oer (dylech newid y dŵr nes ei fod yn glir). Golchwch yn ôl yr arfer gan ddefnyddio glanedydd biolegol.

 

Gwair

Cyfrwng tynnu staen: Glanedydd biolegol hylif

Sut: Rhwbiwch ychydig o lanedydd biolegol hylif yn ofalus i mewn i’r staen a’i adael am 3-5 munud. Rinsiwch â dŵr a’i olchi yn ôl yr arfer.

 

Gwin

Cyfrwng tynnu staen: Glanedydd a dŵr

Sut: Sychwch unrhyw win dros ben a socian yr eitem mewn hylif glanedydd cynnes. Rinsiwch â dŵr oer a’i golchi.

 

Gwm cnoi

Sut: Rhowch yr eitem mewn bag plastig yn yr oergell i galedu’r gwm cnoi. Unwaith y bydd yn galed ac yn frau, gellir ei gracio a’i bigo i ffwrdd.

 

Llaeth

Cyfrwng tynnu staen: Dŵr cynnes a glanedydd hylif

Sut: Rinsiwch yr eitem o dan ddŵr cynnes sy’n rhedeg, rhowch lanedydd hylif ar y staen a’i olchi yn ôl yr arfer.

 

Llifynnau gwallt

Cyfrwng tynnu staen: Dŵr a glanedydd

Sut: Crafwch unrhyw lifyn gwallt dros ben i ffwrdd cyn rinsio’r eitem o dan ddŵr oer. Yna dylech ei socian mewn dŵr cynnes gyda glanedydd am 30 munud. Rinsiwch eto â dŵr oer, rhowch lanedydd hylif ar y staen a golchi’r eitem yn ôl yr arfer.

 

Masgara

Cyfrwng tynnu staen: Glanedydd hylif

Sut: Arllwyswch ychydig o lanedydd hylif yn uniongyrchol ar y staen a, heb olchi’r glanedydd i ffwrdd, ychwanegwch yr eitem at eich golch arferol.

 

Minlliw

Cyfrwng tynnu staen: Cynnyrch tynnu staeniau

Sut: Defnyddiwch lwy i godi unrhyw finlliw sy’n weddill gan rwbio’r cynnyrch tynnu staeniau i mewn i’r staen gan ddefnyddio brwsh meddal. Gadewch iddo weithio am 15 munud cyn golchi ar y tymheredd uchaf a argymhellir ar label gofal y ffabrig.

 

Mwd

Cyfrwng tynnu staen: Glanedydd hylif

Sut: RTynnwch unrhyw fwd sydd dros ben i’w atal rhag disgyn i’r drwm. Arllwyswch ychydig o lanedydd hylif ar y staen a, heb ei olchi i ffwrdd, ychwanegwch yr eitem at eich golch yn ôl yr arfer.

 

Pinnau ffelt a beiros

Cyfrwng tynnu staent: Glanedydd golchi dillad neu chwistrell gwallt

Sut: Rhowch ychydig bach o ddŵr ar y man sydd wedi’i staenio a’i flotio â chadach glân, yna rhowch lanedydd hylif ar y staen a’i adael am 3-5 munud. Golchwch yn ôl yr arfer ar y tymheredd poethaf a argymhellir ar y label gofal ffabrig.

Ar gyfer staeniau mwy ystyfnig, chwistrellwch y staen â chwistrell gwallt a’i flotio â chadach glân nes bydd y staen wedi mynd neu nes bydd yn dipyn llai amlwg. Golchwch yn ôl yr arfer.

 

Saim/olew coginio

Cyfrwng tynnu staen: Papur blotio a glanedydd hylif

Sut: Defnyddiwch bapur blotio i amsugno cymaint o’r olew â phosib. Yna, ewch ati i drin y staen ymlaen llaw drwy ddabio glanedydd hylif i mewn i’r ffabrig cyn ei olchi ar y tymheredd uchaf a ddangosir ar label y ffabrig.

 

Siocled

Cyfrwng tynnu staen: Dŵr oer a glanedydd hylif

Sut: Os nad yw’r siocled wedi sychu’n llwyr, crafwch unrhyw beth dros ben yn ysgafn gan ddefnyddio llwy cyn ei rinsio â dŵr oer. Rhowch lanedydd hylif yn uniongyrchol ar y staen a’i ychwanegu at eich golch.