Dewis y tymheredd cywir ar gyfer golchi dillad.
Efallai y bydd yn ymddangos yn gyflymach ac yn haws defnyddio’r un gosodiadau golchi ar gyfer popeth ond mae cael y tymheredd cywir yn bwysicach nag y byddech yn ei feddwl. Mae gwres y dŵr yn effeithio ar gyflwr eich dillad, pa mor effeithiol yw’r broses o gael gwared â bacteria, arogleuon a staeniau, a chostau rhedeg.
Mae’r tîm yn WASHPOINT wedi llunio rhai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cael y canlyniadau gorau o’ch golch drwy ddewis y tymheredd cywir.
Cofiwch…
Darllen labeli gofal ffabrig yn ofalus
Dewiswch y tymheredd dŵr gorau a’r math o gylch golchi yn seiliedig ar y labeli unigol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer eitemau newydd ac i ddiogelu ffabrigau cain.
Gwahanu dillad cyn eu golchi
Dylech wahanu dillad budr yn ôl lliw a math o ffabrig. Mae golchi mathau tebyg gyda’i gilydd yn eich helpu i gael gwared â budredd, yn atal lliw rhag trosglwyddo ac yn rheoli fflwff yn fwy effeithiol. Darllenwch ein blog i gael gwybod sut gallwch chi wahanu dillad golchi mewn 4 cam syml.
Dewis y glanedydd cywir
Mae glanedyddion golchi dillad yn defnyddio ensymau i godi a chael gwared â baw o ffabrigau. Oeddech chi’n gwybod bod dewis glanedyddion sy’n gweithio’n well ar staeniau, e.e. mathau biolegol, yn golygu bod modd i chi ddefnyddio tymheredd is? Gellir defnyddio cylchoedd rinsio hefyd i olchi glanedydd a baw ychwanegol i ffwrdd.
Trin staeniau ymlaen llaw
Bydd rhoi cyfrwng tynnu staeniau ar y dilledyn ymlaen llaw, neu ei socian mewn dŵr oer cyn ei olchi, yn arwain at ganlyniadau gwell ar bob tymheredd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y labeli neu’n rhoi tamaid bach o’r cynnyrch tynnu staeniau mewn man cudd cyn ei ddefnyddio i drin unrhyw staeniau amlwg.
Pryd i ddefnyddio dŵr oer ar gyfer golchi dillad – 30°C
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau’r dilledyn yn ofalus i gynnwys yr holl eitemau y dylid eu golchi mewn dŵr oer. Gosodiad dŵr oer fydd yn achosi’r difrod lleiaf i ffabrigau, felly os yw label ar goll, neu’n aneglur, mae’n well defnyddio dŵr oer, er mwyn osgoi crebachu neu ddifetha’r dilledyn.
Delfrydol ar gyfer: Ffabrigau cain gan gynnwys gwlân a sidan, yn ogystal â dillad llachar (i osgoi trosglwyddo lliw neu bylu). Bydd tymheredd golchi oerach hefyd yn helpu i gynnal elastigedd mewn dillad chwaraeon.
Manteision: Mae golchi ar dymheredd o 30°C yn defnyddio 38% yn llai o ynni na golchi ar dymheredd o 40°C, felly mae’n fwy eco-gyfeillgar o lawer.
Anfanteision: Os yw eich eitemau dŵr oer yn fudr iawn, mae angen i chi fod yn arbennig o ddiwyd ynghylch trin staeniau ymlaen llaw. Efallai y bydd angen mwy o amser i’w golchi neu eu socian cyn golchi er mwyn cael gwared â staeniau’n llwyr.
Pryd i ddefnyddio dŵr cynnes ar gyfer golchi dillad – 40°C
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn golchi’r rhan fwyaf o’u dillad gyda dŵr cynnes, gan ei fod yn golchi eu dillad yn dda heb gymaint o bylu, crychu na chrebachu â dŵr poeth.
Delfrydol ar gyfer: Dillad wedi’u baeddu’n ysgafn a ffabrigau wedi’u gwneud gan ddyn y gellir eu golchi fel neilon, polyester, sbandecs a chymysgeddau rayon.
Manteision: Mae dŵr cynnes yn helpu i hydoddi glanedyddion powdwr ac mae’n arbed mwy o ynni na dŵr poeth.
Anfanteision: Gall dŵr cynnes bylu rhai lliwiau ac nid yw’n gallu tynnu staeniau trwm, na diheintio ffabrigau’n llwyr.
Pryd i ddefnyddio dŵr poeth ar gyfer golchi dillad – 60°C
Mae adegau o hyd pan fydd angen dŵr poeth i ddiheintio rhag bacteria a chael gwared â baw a staeniau.
Delfrydol ar gyfer: Dillad cotwm gwyn brwnt, dillad isaf, llieiniau sychu llestri, llieiniau chwyslyd neu seimllyd gan gynnwys dillad gwely (cynfasau, gorchuddion gobennydd, gorchuddion duvet) a thywelion bath.
Manteision: Mae dŵr poeth yn diheintio llieiniau sydd wedi’u heintio â bacteria ac mae’n ddelfrydol ar gyfer cael gwared â baw a staeniau olewog. Mae hefyd yn well am hydoddi glanedydd powdwr na thymheredd oerach.
Anfanteision: Nid yw pob ffabrig yn golchi’n dda mewn dŵr poeth; gall achosi iddynt bylu, crychu neu grebachu. Yn benodol, nid yw ffabrigau cain yn ymateb yn dda i dymheredd uchel a dylid defnyddio tymheredd is.
