Pur anaml y bydd rhywun heb brofi anffawd wrth olchi ei ddillad. Gall problemau fel pylu a staenio ddigwydd drwy’r amser ond mae’n rhwystredig pan fyddant yn difrodi eich dillad. Ond peidiwch â phoeni, mae WASHPOINT yma i helpu!
Cymerwch gip ar ein rhestr o broblemau golchi dillad cyffredin; rydyn ni’n rhannu’r achosion a sut gallwch eu hatal rhag digwydd i helpu i wneud i’ch ffabrigau bara’n hirach.
Lliw yn pylu
Gall amrywiaeth o faterion achosi i liwiau bylu, gan gynnwys:
- Dod i gysylltiad uniongyrchol â golau’r haul
- Defnyddio cannydd yn anghywir wrth gael gwared â staeniau neu olchi dillad
- Golchi neu smwddio ar dymheredd rhy uchel
- Ôl treulio mewn mannau amlwg
- Staeniau oherwydd cynhyrchion gwallt, glanhawyr y cartref, cemegau gardd, persawr neu ddiaroglyddion (gall pob un arwain at bylu mewn mannau penodol a allai edrych yn waeth ar ôl golchi)
Er ei bod yn anochel bod lliw yn pylu dros amser, gallwch ei atal rhag digwydd pan fydd eitemau’n dal yn gymharol newydd. Cofiwch ddarllen y labeli gofal ffabrig cyn golchi bob amser!
Crebachu
Mae dillad yn cael eu gwneud o wahanol fathau o ffeibrau wedi’u hymestyn a fydd i gyd yn gweithredu’n wahanol yn ystod cylchoedd golchi a sychu. Mae ffeibrau naturiol (gwlân, cotwm) yn cynnwys gweoedd mwy llac na’r rhan fwyaf o ffeibrau a wnaed gan ddyn (polyester, neilon) ac maent yn fwy tueddol o dynhau neu grebachu wrth ddod i gysylltiad â dŵr, gwres a chynnwrf (agitation).
I helpu i atal y risg o grebachu, dylech wneud y canlynol:
- Darllen y label gofal ffabrig i gael gwybod sut mae golchi eitem yn gywir
- Gwahanu dillad golchi yn ôl tymereddau golchi (ceisiwch gadw at dymheredd oer/cynnes lle bo hynny’n bosib)
- Dewis y cylchoedd golchi a sychu cywir yn ôl y math o ffabrig sydd gennych chi
Tyllau neu rwygiadau
Os dewch chi o hyd i dwll neu rwyg cudd yn eich dillad nad ydych chi’n cofio eu rhwygo, mae’n debygol bod y canlynol wedi’i achosi:
- Cannydd mewn hylifau glanhau’r cartref, diheintyddion neu driniaethau lliwio’r gwallt
- Difrod o wreichion llwch sigaréts neu danau agored
- Difrod treulio oherwydd offer cegin, corneli miniog neu lusgo ar hyd lloriau
- Gorlwytho eich peiriant (gall achosi i ffabrigau gael eu bachu ar sips, addurniadau neu fotymau ar eitemau eraill)
I helpu i atal tyllau neu rwygiadau wrth olchi a sychu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahanu eich eitemau ymlaen llaw. Er enghraifft, ceisiwch beidio â golchi unrhyw eitemau cain gyda dillad trwm sydd â sips neu addurniadau gan eu bod yn gallu rhwygo’n hawdd ac achosi difrod.
Colli lliw
Mae colli lliw yn niwsans; mae un hosan goch yn ddigon i droi eich dillad gwyn i gyd yn binc. Ond diolch byth, mae fel arfer yn hawdd datrys hyn os byddwch yn gweithredu’n gyflym drwy olchi eich dillad eto gan ddefnyddio cannydd ocsigen yn ogystal â’ch glanedydd arferol – gwnewch yn siŵr eich bod yn dod o hyd i’r eitem a gollodd ei lliw gyntaf!
I atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol, ceisiwch wahanu a golchi eich holl ddillad newydd gyda lliwiau tebyg sawl gwaith mewn dŵr oer. Mae’n aml yn cymryd sawl golch i liwiau ansefydlog olchi allan.
Arogleuon
Er bod staeniau i’w gweld fel arfer cyn golchi, gall arogleuon fynd yn sownd mewn ffeibrau ac aros o gwmpas am hirach. Gall achosion gynnwys:
- Persawr (Awgrym: Cymysgwch soda pobi a dŵr oer, yna socian a golchi’r dillad yn y ffordd arferol)
- Chwys (Awgrym: Cymysgwch finegr distyll gwyn a dŵr a sgrwbio’r ardaloedd lle mae diaroglydd wedi cronni gan ddefnyddio brwsh meddal. Dylech socian yr eitem yn yr un toddiant a’i golchi yn y ffordd arferol)
- Bwyd neu goginio (Awgrym: Golchwch ar y tymheredd uchaf a argymhellir ar y label gofal gyda glanedydd golchi dillad)
Boblo
Mae’n siŵr bod gan bawb hoff ddilledyn sydd wedi boblo ar ôl cael ei olchi. Mae boblo’n digwydd oherwydd ffrithiant, sy’n gorfodi ffeibrau ar wyneb y dillad i rwbio gyda’i gilydd. Dyna pam mai’r ardaloedd sy’n cael eu heffeithio waethaf yn aml yw’r rhai sy’n cael eu treulio fwyaf o ddydd i ddydd, fel o dan y ceseiliau ac i lawr ochrau siwmperi a chardiganau.
Mae ambell beth y gallwch ei wneud i helpu i atal boblo:
- Gwahanwch eitemau yn ôl math o ffabrig er mwyn atal treulio a throsglwyddo fflwff
- Golchwch y tu chwith allan – hyd yn oed os bydd y dillad yn boblo, ni fydd pobl eraill yn gallu ei weld!
- Peidiwch â gorlwytho eich peiriant golchi – bydd hyn yn atal dillad rhag treulio
- Edrychwch ar y label gofal ffabrig i weld pa osodiad/tymheredd i’w ddefnyddioe
- Defnyddiwch gyflyrydd ffabrig
