Prifysgol Caerdydd
Ble mae’r lawerafdy agosaf?
I ddod o hyd i ble mae’ch lawerafdai wedi’u lleoli, cliciwch ar y map isod.
Ydy’r peiriannau ar gael?
Cliciwch ar y dolenni isod i weld a oes unrhyw beiriannau ar gael neu i gael hysbysiad pan fyddan nhw’n rhydd.
Dewiswch Eich Preswylfa
De Tal-y-bont Neuadd y Brifysgal – BirchwoodLlys Senghennydd Neuadd Aberdâr Neuadd y Brifysgal – Tower Neuadd Gordon Neuadd Hodge Llys Cartwright Llys Tal-y-bont Gogledd Tal-y-bont 128 Heol Colum
Lawrlwythwch y WASHPOINT by WASHCO ap a reoli eich golch o bell.
Sut i ddefnyddio’r peiriannau golchi a’r sychwyr dillad?
Wedi’i gynllunio i wneud pethau’n haws i chi, mae’ch golchdy WASHPOINT yn cynnig profiad golchi di-dor ac yn fwy cynaliadwy.
- Amgylchedd modern, ffres a chroesawgar
- Peiriannau effeithlon o ran ynni heb gyfaddawdu ar ganlyniadau golchi a sychu
- Am bob peiriant a osodir, caiff 1 goeden ei phlannu, gan wrthbwyso 1 tunnell o allyriadau carbon
- cylch = rhodd o 1c i Young Lives vs Cancer
Gwyliwch y fideo tiwtorial i ddysgu sut i gael y gorau o’ch golchdy newydd.
Oeddech chi’n gwybod bod hylif golchi yn cael ei gynnwys yn eich golch?
Wedi’i gynllunio i wneud pethau’n haws i chi, mae’r cylch golchi yn cynnwys hylif golchi di-fiologol a chyflyrwr ffabrig.
Mae’r hylif golchi di-fiologol (gweld taflen ffeithiau) yn cynnwys disgleirwyr optegol sydd wedi’u cynllunio i gynyddu gwynni a disgleirdeb eich dillad. Mae’r cyflyrwr ffabrig (gweld taflen ffeithiau) yn helpu’ch dillad i bara’n hirach, tra bod y dechnoleg arogl wedi’i hamgáu yn eu cadw’n ffres eu harogl.
Sut ydw i’n talu?
Mae talu’n hynod o hawdd gyda’r dechnoleg talu digidol ddiweddaraf.
Yn ddiogel iawn, gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd gan gynnwys Mastercard, Visa, Maestro ac American Express, neu drwy ffon symudol gan gynnwys GPay ac Apple Pay.
Does dim angen cofrestru ymlaen llaw, felly mae chwilio am arian parod neu’ch cerdyn golchi yn un peth llai i boeni amdano.