Rydyn ni’n gwybod pa mor rhwystredig yw gweld bod eich dillad gwyn wedi troi’n llwyd neu fod dillad wedi dod allan o’r golch naill ai wedi crebachu neu wedi’u hymestyn. Dysgu sut i wahanu dillad yw’r ffordd orau o osgoi unrhyw gamgymeriadau yn y dyfodol, a byddwch yn falch o wybod ei bod yn hawdd gwneud hynny!  

1. Darllen y label

Os ydych chi wedi prynu dillad newydd neu os ydych chi’n newydd i olchi dillad, y cam cyntaf yw darllen y label gofal ar bob eitem cyn ei golchi.
Bydd y label gofal yn cynnwys dadansoddiad o’r ffabrigau a ddefnyddiwyd i wneud eitem, fel cotwm neu bolyester. Bydd hefyd yn dweud wrthych a oes modd golchi’r eitem yn y peiriant, pa dymheredd dŵr i’w ddefnyddio a sut i sychu’r ffabrig. Gallwch weld beth yw’r tymheredd gorau i olchi dillad drwy glicio yma.
Dylech bob amser wahanu eitemau y gellir eu golchi oddi wrth eitemau sychlanhau yn unig – bydd angen mynd â’r eitemau hyn at sychlanhawr proffesiynol, er bod modd golchi rhai â llaw.

2. Gwahanu yn ôl Lliw

Casglwch eich dillad golchi at ei gilydd a’u gwahanu’n gategorïau lliw:  

  • Gwyn 
  • Golau – arlliwiau golau fel melyn, glas, pinc neu wyrdd
  • Llachar – arlliwiau mwy llachar fel coch, gwyrdd neu oren ac ati 
  • Tywyll – du ac arlliwiau mwy tywyll fel llwyd, gwyrdd, glas tywyll, porffor, coch ac ati  

Weithiau gellir cyfuno dillad tywyll a dillad llachar yn yr un llwyth. Fodd bynnag, os oes gennych lawer o’r naill neu’r llall, mae’n werth eu golchi ar wahân i osgoi colli lliw.  

3. Gwahanu yn ôl ffabrig

Efallai ei fod yn ymddangos fel cam ychwanegol ond gall gwahanu eich dillad yn ôl math o ffabrig helpu i’w cadw mewn cyflwr da. Cofiwch wahanu eich dillad yn grwpiau a’u golchi ar wahân. 

  • Eitemau bob dydd (cotwm a lliain – crysau-T, dillad isaf, hosanau ac ati)  
  • Denim 
  • Cynfasau a dillad gwely 
  • Eitemau cain (eitemau sidan ac wedi’u haddurno) 
  • Gwlân 
  • Tywelion 
  • Eitemau sy’n cynhyrchu fflwff (siwmperi meddal ac ati)  

Mae gwahanu yn ôl ffabrig yn helpu i atal difrod i eitemau mwy cain. Bydd eitemau trymach hefyd yn cymryd tipyn mwy o amser i sychu, sy’n gallu golygu bod ffabrigau ysgafnach yn dioddef o orsychu ac yn arwain at fwy o straen ar y ffeibrau.  

4. Golchi eitemau sydd wedi’u baeddu’n drwm ar wahân

Os oes gennych chi ddillad sydd â staeniau olewog arnynt neu sy’n llawn baw, trefnwch nhw yn ôl yr arfer ond gwnewch yn siŵr eich bod yn eu golchi ar wahân. Bydd hyn yn atal staeniau ac arogleuon cryf rhag trosglwyddo i eitemau eraill. Yn aml, bydd angen eu trin ymlaen llaw gyda chynnyrch tynnu staeniau cyn eu llwytho yn y peiriant.  

Awgrymiadau a thriciau

Ambell i awgrym i’ch helpu i wahanu eich dillad… 

  • Bydd labelu basgedi golchi dillad yn ôl lliw neu ffabrig yn golygu y byddwch chi’n gwahanu eitemau wrth i chi fynd  
  • Cadwch gynnyrch tynnu staeniau a thrin dillad ymlaen llaw wrth law rhag ofn  
  • Golchwch ddillad newydd ar eu pen eu hunain ar gyfer yr ychydig gylchoedd cyntaf gan eu bod yn tueddu i golli lliw yn haws ar y cam hwn 

Er na fydd peidio â gwahanu eich dillad bob amser yn arwain at drychineb, gall yr amser byr y mae’n ei gymryd i’w gwahanu wneud byd o wahaniaeth. Buan iawn y dewch chi i arfer a byddwch chi’n sylwi bod eich dillad yn edrych ac yn teimlo’n fwy newydd am hirach hefyd!!